Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 2:15, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Gyda'r adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol mewn golwg, mae etholwyr wedi cysylltu â mi i godi pryderon ynghylch parhad gofal ar gyfer plant sydd ar fin bod yn oedolion. Mae Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn dweud wrthyf eu bod nhw'n gweithio gyda'u pum partner awdurdod lleol yn eu hardal i geisio symud tuag at ddarparu gwasanaeth integredig cyfun, ond mae hyn wedi bod yn her, yn rhannol oherwydd yr amrywiaeth o gyrff, ond hefyd oherwydd y cyfnod pontio i fod yn oedolyn sy'n aml yn anodd i blant sydd angen parhad gofal.

A wnaiff y Prif Weinidog gytuno felly i gynnal adolygiad o ganllawiau parhad gofal plant a phobl ifanc 2012, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n credu bod angen eu diweddaru yng ngoleuni gofal cymdeithasol a ddarperir gan awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, ac felly, gallwn wneud yn siŵr wedyn bod gan y rheini sy'n symud i fod yn oedolion siawns dda o barhad gofal.