Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:16, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch i fy nghyd-Aelod am y cwestiwn? Yn gyntaf oll, os hoffai ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddaf yn edrych ar yr achos unigol yn agosach. Yn ail, gofynnodd yn benodol am y canllawiau. Gallaf ddweud bod y broses wedi cychwyn. Rydym ni'n sefydlu grŵp i ystyried y ddarpariaeth o ofal parhaus i blant a phobl ifanc, ac i geisio llunio canllawiau newydd i ddisodli'r canllawiau presennol, gan gymryd i ystyriaeth, wrth gwrs, datblygiadau ers hynny.