1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2018.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyfathrebu â phobl sy’n aros am wasanaeth band eang cyflym iawn? OAQ51582
Mae gwybodaeth ar gyflwyno band eang cyflym iawn o dan project Cyflymu Cymru ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, a bydd darparu gwybodaeth effeithiol ar gyflwyno hyn hefyd yn ofyniad allweddol o unrhyw broject olynol.
Mi gysylltodd etholwr o Dalwrn efo fi yn ddiweddar, nid ei fod o'n flin oherwydd nad oedd ganddo fand eang cyflym iawn, ond ei fod o rŵan wedi ffeindio allan ei fod o ar gael iddo fe ers rhai misoedd, ond nad oedd e’n gwybod am y peth. A digwydd bod, rydw i yn yr un sefyllfa, lle dywedodd cymydog wrthyf ein bod ni'n gallu cael cysylltiad band eang cyflym ers cwpl o fisoedd.
Mae hyn yn rhwystredig iawn i bobl sydd wedi aros yn hir, ac mae o’n rhan, rydw i’n meddwl, o’r diffyg cyfathrebu affwysol sydd wedi bod rhwng Openreach a’r cyhoedd ynglŷn â roll-out band eang llydan. A wnaiff y Prif Weinidog roi ymrwymiad i bwyso eto ar Openreach i roi gwybod i bobl pan fo cysylltiad ar gael? Achos mae disgwyl am y cysylltiad yn ddigon hir, a phan rydych yn ffeindio ei fod o wedi bod ar gael a chithau ddim yn gwybod, mae e’n hynod rwystredig.
Nid ydyw wedi bod yn ddigonol. Mi oedd yna ymgyrch dros y tair blynedd lan at y flwyddyn nesaf er mwyn hybu defnydd o fand eang cyflym iawn, ond rydym yn ailystyried ym mha ffordd y gallwn ni wella’r cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pobl sydd â’r gwasanaeth yn gallu ei dderbyn ac yn gwybod ei fod e yna. Wrth gwrs, mae’n un peth i sicrhau bod y strwythur yna, mae’n beth arall i sicrhau bod pobl yn gwybod eu bod nhw’n gallu ei ddefnyddio. So, mae hwn yn rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud wrthym hefyd, ac rydym yn moyn ailystyried y ffordd rydym yn cyfathrebu er mwyn sicrhau bod pobl yn gwybod.
Prif Weinidog, a gaf i ddweud fy mod i'n credu bod rhaglen Cyflymu Cymru wedi bod yn drychineb cyfathrebu cyhoeddus? Yn sicr addawyd band eang ffibr i'm hetholwyr dro ar ôl tro dim ond i gael eu hysbysu bod yr uwchraddio wedi ei oedi, ar sawl achlysur. Ac maen nhw'n canfod nawr eu bod nhw wedi cael eu gadael mewn twll gan fod Openreach wedi rhedeg allan o amser. Mewn llythyr i mi ar 11 Ionawr, dywedodd arweinydd y tŷ, a dyfynnaf yn y llythyr: Ni chafodd y ddarpariaeth o gysylltiad band eang cyflym iawn, o dan brosiect Cyflymu Cymru, ei addo i unrhyw ardal na chymuned erioed, dim ond ei drefnu.
Mae hynny, i mi, yn osgoi cyfrifoldeb yn llwyr. Addawyd i aelwydydd dro ar ôl tro y bydden nhw'n cael uwchraddiad erbyn diwedd 2017. Felly, a gaf i ofyn beth yw eich neges chi i'r aelwydydd hyn? Pa wersi ydych chi wedi eu dysgu, ac a allwch chi roi unrhyw sicrwydd bod safleoedd a oedd yn rhan o'r cwmpas gynt yn cael eu cynnwys mewn unrhyw gynllun olynol nawr?
Yn gyntaf oll, rydym ni yn nwylo BT o ran y gwaith ffisegol sy'n cael ei wneud. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw fy mod i'n deall bod pobl sy'n teimlo nawr, gan fod y contract wedi dod i ben, na fydd unrhyw beth arall yn digwydd. A gaf i ddweud wrth yr Aelod ein bod ni'n ystyried pa gamau pellach y gallwn ni eu cymryd nawr? Rwy'n deall. Rwyf i wedi clywed straeon ledled Cymru bod adeiledd, yn llythrennol, wedi ei adael wedi hanner ei orffen oherwydd i'r contract ddod i ben. Rwy'n gwbl ymwybodol o hynny. Byddai'n drueni mawr pe byddai hynny'n digwydd. Felly, a gaf i ddweud wrtho fe a'i etholwyr ein bod ni'n mynd ati i ystyried sut orau i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu cysylltu, ac rydym ni'n edrych eto ar sut y gallwn ni helpu i gysylltu llawer mwy o gymunedau ac aelwydydd y tu hwnt i ddiwedd y contract ddiwedd y llynedd.
Prif Weinidog, oherwydd buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, nid oes unrhyw amheuaeth bod gan filoedd o gartrefi ar draws etholaeth Llanelli fynediad at fand eang cyflym iawn erbyn hyn. Ond yng nghymuned y Bynie, ar gyrion Llanelli, maen nhw wedi cael eu trin yn hynod wael gan BT Openreach. Dywedwyd wrthynt y byddai ganddyn nhw fynediad erbyn diwedd y flwyddyn, maen ganddyn nhw gyflymderau gwarthus, ac fe'u hysbyswyd ychydig cyn y Nadolig y byddai'n rhaid iddyn nhw aros tan unrhyw gynllun olynol yn y dyfodol oherwydd eu bod wedi cyrraedd eu targed. Yn amlwg, nid yw hyn yn ddigon da.
Cynhaliodd fy nghyd-Aelod, Nia Griffith, gyfarfod â thrigolion a chyda BT fore Sadwrn, a dywedwyd wrthynt y byddai'n rhaid iddyn nhw baratoi cais cymunedol nawr. Mae hyn wedi peri rhwystredigaeth mawr iddyn nhw, felly a all Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr, wrth iddi gyfathrebu'r cyfnod nesaf, bod y grwpiau hyn a adawyd ar ôl yn cael eu cyrraedd nawr, ac yn cael eu cyrraedd yn gyflym?
Wel, gallaf ddychmygu'n iawn y pryder, os nad y dicter, y mae pobl yn y Bynie yn ei deimlo. Rwy'n credu, o dôn yr Aelod, bod hyn yn rhan o'r contract Cyflymu Cymru yn hytrach na chontract masnachol, nad oes gennym ni unrhyw reolaeth drosto, wrth gwrs, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag ef gyda BT gyda'r nod o edrych eto ar gymunedau yr addawyd, neu y mae'n ymddangos yr addawyd, gwasanaethau iddynt, ond na ddarparwyd y gwasanaethau hynny iddynt, gyda'r nod o ddarparu'r gwasanaethau hynny yn y dyfodol. Felly, rydym ni'n ymwybodol iawn y bydd cymunedau a safleoedd ledled Cymru sy'n teimlo y dylen nhw fod wedi gallu cael mynediad at fand eang cyflym iawn nad ydynt wedi ei dderbyn eto, ac rydym ni'n edrych nawr ar ffyrdd o geisio sicrhau eu bod nhw'n ei dderbyn yn y dyfodol.