Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 16 Ionawr 2018.
A gaf i ddweud fy mod i'n ymwybodol, wrth gwrs, fod yr adolygiad ei hun yn adolygiad trawsbleidiol? Ac rwy'n credu bod yr adolygiad yn haeddu ystyriaeth lawn gan yr holl bleidiau, gydag ymateb llawn. Yr hyn y gallaf i ei ddweud wrthi, fodd bynnag yw hyn: mae hi'n gwneud y pwynt, yn amlwg yn synhwyrol, ein bod ni eisiau gweld ffiniau yn cael eu dileu. Gwn fod yr adolygiad yn cyflwyno gweledigaeth o iechyd a gofal di-dor heb ffiniau artiffisial rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae hynny'n gwbl gyson â'r hyn yr ydym ni oll eisiau ei weld hefyd. Felly, cyflawni hynny yw'r cam nesaf o ran ystyried yr hyn y mae'r adolygiad wedi ei ganfod.