Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 16 Ionawr 2018.
Mi dynnais i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddiweddar at y broblem o dacsis ambiwlans yn cael eu canslo, yn aml ar y funud olaf—wrth gwrs, rhywbeth sy'n achosi loes i gleifion sydd wedi bod yn aros tro i fynd i'r ysbyty. Mewn ateb a dderbyniais i ar 8 Ionawr, mi ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei fod o'n siomedig i glywed am y pryderon yma, a bod rhaglen drawsnewid yn cael ei gweithredu i wella'r maes yma, a bod cydweithio efo llywodraeth leol yn rhan o'r ateb. Ond, pryd allaf i ddweud wrth fy etholwyr i y gallant ddisgwyl gweld y rhan bwysig yma o'r gwasanaeth iechyd yn cael ei sefydlogi achos, hyd yma, er gwaethaf y rhaglen weithredol, mae'n amlwg nad ydy o'n gweithio?