1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 16 Ionawr 2018.
7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod digon o dir ar gael i awdurdodau lleol yng Nghymru i ateb y galw ar gyfer datblygiadau tai newydd? OAQ51558
Mae'r system gynllunio yn chwarae rhan hanfodol yn y ddarpariaeth o gartrefi newydd trwy nodi'r tir sydd ei angen i fodloni gofynion tai cymunedau, a benderfynir gan awdurdodau cynllunio lleol yn eu cynlluniau datblygu lleol.
Diolch am yr ateb, Prif Weinidog. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol gynnal cyflenwad tir dros bum mlynedd ar gyfer tai i fodloni'r galw lleol am dai ac i fonitro hyn yn flynyddol. Fodd bynnag, mae cynllun datblygu lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi methu â sicrhau bod digon o dir ar gael i ddiwallu'r anghenion y mae wedi eu nodi ar gyfer ei gymunedau lleol. Mae sefyllfa cyflenwad tir tai Caerffili yn cael ei amharu gan y methiant i wneud cynnydd o ran disodli ei CDLl yn dilyn adolygiad, a ddechreuodd yn 2013. Pa gamau wnaiff y Prif Weinidog eu cymryd i sicrhau bod cyngor Caerffili yn bodloni'r gofynion o ran cyflenwad tir ar gyfer tai a bennwyd gan ei Lywodraeth ei hun?
Wel, yn gyntaf oll, mae'n bwysig bod gan awdurdodau lleol gyflenwad pum mlynedd o dir. Yn ail, mae'n bwysig cael CDLl cyfredol, oherwydd y dewis arall yw trefniant cwbl benagored ac mae hynny'n rhywbeth y bydd pob awdurdod lleol yn dymuno ei osgoi. Wedi dweud hynny, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n bwysig dros ben bod Caerffili ac awdurdodau eraill yn gallu gweithio gyda'i gilydd i gyflwyno cynlluniau datblygu strategol, oherwydd mae'n rhaniad artiffisial i ddweud, 'Wel, wyddoch chi, mae'n rhaid i unrhyw un sydd eisiau byw yng Nghaerffili weithio yng Nghaerffili' neu rywsut nad yw pobl yn gweithio yng Nghaerdydd o Rondda Cynon Taf neu i'r gwrthwyneb. Y gwir amdani yw nad yw'r galw hwnnw am dai yn cael ei bennu gan ffiniau awdurdodau lleol. Felly, rwyf i eisiau gweld—a gwn ei fod yn rhywbeth a deimlir yn gryf gan Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau lle ceir pwysau ar dai—awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd ac yn dweud, 'Edrychwch, y gwir yw bod Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf', dim ond i roi rhai enghreifftiau, 'maen nhw'n rhan o ardal drefol debyg'. Bydd galw am dai yr un fath ym mhob awdurdod lleol, felly mae'n gwneud synnwyr wedyn i gydweithio i gynnig ateb strategol i'r galw am dai yn hytrach nag edrych yn syml, fel y bu'n wir yn hanesyddol, ar alw mewn un ardal awdurdod lleol. Nid yw hynny'n cynrychioli realiti economaidd ac mae'n eithriadol o bwysig y rhoddir yr hyblygrwydd i awdurdodau lleol, fel y rhoddwyd iddynt yn y Ddeddf cynllunio, i weithio gyda'i gilydd i ddarparu atebion tai y tu allan i'w ffiniau eu hunain.
Ac, yn olaf, cwestiwn 8—Dawn Bowden.