Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd sefydlu'r adolygiad seneddol o ddyfodol hirdymor iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ymrwymiad allweddol yn ein rhaglen lywodraethu, 'Symud Cymru Ymlaen', ond wrth gwrs daeth hyn o gytundeb cynnar gyda Phlaid Cymru i sefydlu’r adolygiad. Cafodd yr ymrwymiad hwnnw ei bwysleisio ymhellach yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'.
Cyhoeddais sefydlu panel annibynnol o arbenigwyr ym mis Tachwedd 2016. Daeth hynny ar ôl cytundeb trawsbleidiol, ynglŷn â’r cylch gorchwyl ac aelodaeth y panel annibynnol. Cyhoeddwyd eu hadroddiad interim ar 11 Gorffennaf y llynedd. Mae’r panel wedi cael 12 mis i ystyried tystiolaeth a defnyddio eu harbenigedd i lunio eu hargymhellion. Cyhoeddwyd yr adroddiad terfynol, gyda'r argymhellion hynny gan y panel, yn gynharach heddiw.
Cadeirydd y panel adolygu annibynnol oedd Dr Ruth Hussey, cyn Brif Swyddog Meddygol Cymru, ac mae wedi cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, yn wir, ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Hoffwn ddiolch i Ruth a’i chyd aelodau o’r panel, ac ar ben hynny bawb sydd wedi gweithio gyda’r panel a rhoi tystiolaeth iddynt am eu hamser a'u hymroddiad i lunio'r adroddiad pwysig hwn.
Roedd cylch gorchwyl a chwmpas yr adolygiad a’i amserlen yn heriol. Ond, fel y gwyddom, mae angen rhoi sylw brys i'r heriau sy'n ein hwynebu. Gofynnwyd i'r panel ddarparu adroddiad ac argymhellion ynglŷn â: sut y gallai’r system iechyd a gofal ddarparu gwell canlyniadau iechyd a lles i bobl ledled Cymru; sut i leihau'r anghydraddoldebau sy'n bodoli rhwng grwpiau penodol o'r boblogaeth; a'r ffordd orau o alluogi’r holl system iechyd a gofal cymdeithasol i fod yn gynaliadwy dros y pum i 10 mlynedd nesaf.
Cefnogwyd yr adolygiad hwn gan bob plaid drwy gydol y cyfnod. Rwy’n gwybod bod y cadeirydd ac aelodau'r panel wedi parhau i ymgysylltu â llefarwyr y gwrthbleidiau, ac â Chadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon drwy gydol yr adolygiad. Rwy’n croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’r adolygiad ac aeddfedrwydd yr ymgysylltiad adeiladol rhwng pob plaid a’r panel.
Nodwyd yr achos o blaid newid yn glir iawn yn yr adroddiad interim. Nid wyf wedi clywed neb yn anghytuno â’r angen am newid er mwyn ateb yr heriau sy'n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Yn wir, rwyf wedi clywed brwdfrydedd ynglŷn â gwneud cynnydd i ymdrin â’r cyfuniad o faterion sy'n ein hwynebu. Yr hyn sy'n amlwg i mi yw bod angen newid arnom a bod angen inni ddechrau gwneud y newid hwnnw cyn gynted â phosibl. Mae angen system arnom ni sy'n diwallu anghenion ein poblogaeth yn y dyfodol, ac un sy’n ariannol gynaliadwy.
Mae'r panel wedi ymgysylltu â’r ystod eang honno o randdeiliaid, gan gynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, clinigwyr, y cyhoedd a'r trydydd sector. Bu cyfarfodydd wyneb yn wyneb, paneli dinasyddion, grwpiau ffocws, tystiolaeth ysgrifenedig, cyfarfodydd â grwpiau penodol o bobl—er enghraifft, grwpiau pobl hŷn—a chwestiynau ac atebion uniongyrchol ar y cyfryngau cymdeithasol gyda'r panel.
Mae'r adroddiad yn cydnabod bod staff rheng flaen a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau eisiau symud ymlaen a gwneud newidiadau sy'n gwella ansawdd profiadau a chanlyniadau pobl. Mae hefyd yn cydnabod bod llawer o enghreifftiau o waith da mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys cydweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth di-dor i bobl. Efallai mai’r peth pwysicaf yw bod yr adroddiad hefyd yn dweud bod gennym botensial go iawn yng Nghymru i oresgyn yr heriau sy’n ein hwynebu. A'r heriau sy'n ein hwynebu yw’r rhai yr wyf i ac eraill wedi sôn amdanyn nhw eisoes: ariannu, cyflymder newid gwasanaethau a pherfformiad gwasanaethau, gan gynnwys fy nymuniad i i ddatblygu mesurau canlyniadau newydd â sail glinigol.
Mae'r panel arbenigol wedi amlinellu’r weledigaeth ar gyfer gwasanaeth di-dor i ddinasyddion, gan gynnwys modelau gofal newydd sy’n seiliedig ar nod pedwarplyg newydd. Y nodau hynny yw: gwella iechyd a lles y boblogaeth, gan ganolbwyntio ar atal; gwella profiad gofal ac ansawdd gofal i unigolion a theuluoedd; cyfoethogi lles, gallu ac ymgysylltiad y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a chynyddu’r gwerth a geir o ariannu iechyd a gofal drwy wella, arloesi, defnyddio arfer gorau, ac, wrth gwrs, dileu gwastraff.
Mae nodau’r nod pedwarplyg hwnnw’n gydnaws â, ac yn gweithio ochr yn ochr â, nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac egwyddorion gofal iechyd darbodus. Mae'r panel yn argymell y dylai pob un o'r pedwar nod hynny gael ei ddilyn ar yr un pryd. Mae’r modelau newydd a gynigir yn yr adroddiad yn seiliedig ar nodweddion a bennir yn genedlaethol, a ddarperir yn lleol, gan ystyried barn y dinasyddion yn eu gofal, a gan ddefnyddio technoleg i wella mynediad at wasanaethau.
Mae safonau cenedlaethol, wrth gwrs, yn bwysig, yn ogystal â gwneud penderfyniadau lleol cydgysylltiedig i ddiwallu anghenion penodol poblogaethau lleol, gan ystyried, er enghraifft, y Gymraeg neu wledigrwydd fel enghreifftiau o ffactorau. Mae'r adroddiad ei hun yn gwneud 10 o argymhellion lefel uchel allweddol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r argymhellion hynny’n ymwneud â phobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau, systemau, arloesedd a thechnoleg; arweinyddiaeth, dysgu, diwylliant ac ymddygiad; ac, wrth gwrs, cynnydd a chyflymder wrth wraidd system y dyfodol.
Mae angen i Lywodraeth Cymru, GIG Cymru, llywodraeth leol, y sector tai a'r trydydd sector ymateb yn gyflym a gweithredu. Wrth gwrs, bydd dewisiadau anodd yn ogystal â chyfleoedd go iawn dros y misoedd nesaf i drawsnewid y system sydd gennym ar hyn o bryd. Fodd bynnag, ni ddylem golli golwg ar y ffaith bod hwn yn gyfle i lunio’r system iechyd a gofal am flynyddoedd a degawdau i ddod. Rwy’n gobeithio y gallwn barhau i weithio ar draws gwasanaethau, ar draws sectorau, ac, wrth gwrs, ar draws pleidiau i sicrhau dyfodol iechyd a gofal yng Nghymru.
Rwy’n croesawu’r adroddiad gan y panel adolygu, ac wrth gwrs byddaf yn ystyried yr argymhellion yn fanylach dros yr wythnosau nesaf. Ac yn y gwanwyn byddaf yn cyhoeddi cynllun hirdymor newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol a fydd yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad hwn.