Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 16 Ionawr 2018.
A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio? Rwy'n ddiolchgar am yr hyn y mae newydd ei ddweud ac, wrth gwrs, dyma'r tro cyntaf yr ydym wedi edrych ar gyllideb sydd â chynhyrchiad incwm yn ogystal â gwariant yn rhan ohoni—a newid cadarnhaol yw hynny i ddatblygiad y lle hwn. Ond a yw ef wedi gwneud unrhyw amcangyfrif o beth fyddai wedi digwydd o du'r gwariant pe na fyddem wedi cael y saith mlynedd hynny o galedi ers etholiad y Llywodraeth glymblaid yn ôl yn 2010, a pha fath o ffurf fyddai ar gyllideb Cymru pe na fyddai hynny wedi digwydd?