4. Dadl: Cyllideb Derfynol 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 4:03, 16 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, gallaf gynnig dau amcangyfrif i'r Aelod. Pe byddai ein cyllideb ni wedi aros yr un fath mewn termau gwirioneddol, heddiw fel ag yr oedd bron ddegawd yn ôl, heb unrhyw gynnydd o gwbl yn yr adnoddau i ni, byddai gennym £1.1 biliwn yn ychwanegol i'w fuddsoddi yn y gyllideb hon na'r hyn a welwn heddiw. Roedd ein cyllideb wedi tyfu yn unol â thwf yn yr economi—rhywbeth y llwyddodd pob Llywodraeth i'w gyflawni o 1945 hyd 2010, drwy'r holl flynyddoedd hynny o Mrs Thatcher, pryd na welwyd cwymp yn nhwf y gwasanaethau cyhoeddus yn is na'r twf yn yr economi gyfan. Mae twf yr economi wedi rhewi'n gorn ers 2010—rwy'n credu y byddai gennym ni rywbeth rhwng £3 biliwn a £4 biliwn yn fwy i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru heddiw na'r hyn y gall y gyllideb hon ei ddarparu.

Llywydd, rwy'n awyddus i amlinellu'n fras ar gyfer yr Aelodau y newidiadau hynny sydd o fewn y gyllideb derfynol, o'u cymharu â'r gyllideb ddrafft yr oeddwn yn gallu ei gosod ym mis Hydref y llynedd. Mae cyllideb derfynol 19 Rhagfyr yn dangos, dros ben y £230 miliwn ychwanegol yn 2018-19 a'r £220 miliwn dros ben hynny yn 2019-20, y bydd gan y GIG yng Nghymru £100 miliwn arall, £50 miliwn ym mhob blwyddyn, i gefnogi gwaith fy nghydweithiwr Vaughan Gething wrth iddo roi argymhellion yr arolwg seneddol ar waith, sydd newydd eu trafod yma. Mae'r gyllideb derfynol yn dangos hefyd ddyraniadau ychwanegol o £20 miliwn yn 2018-19 a £40 miliwn yn ychwaneg yn 2019-20 i gefnogi awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnyn nhw. Rydym yn adeiladu ar yr £20 miliwn a gyhoeddwyd ar gyfer digartrefedd yn y gyllideb ddrafft drwy roi £10 miliwn ychwanegol sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddigartrefedd yr ifanc yn 2019-20. Mae £36 miliwn ymhellach wedi ei ddyranu i weinyddiaethau i gefnogi ymrwymiadau 'Ffyniant i bawb', ac mae Gweinidogion yn gweithio ar hyn o bryd ar gyfeirio'r cyllid hwn i'r mannau y bydd yn gwneud  y gwahaniaeth mwyaf.

Drwy gydol y craffu ar y gyllideb ddrafft, Dirprwy Lywydd, mae'r Aelodau wedi mynegi pryder am effaith Brexit. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn ddiweddar gronfa bontio Undeb Ewropeaidd gwerth £50 miliwn sy'n adeiladu ymhellach ar y £5 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft i fod yn barod am Brexit fel rhan o'r cytundeb cyllideb â Phlaid Cymru. Mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys £10 miliwn o gyllid refeniw dros ddwy flynedd fel buddsoddiad cychwynnol ychwanegol yn y gronfa hon. Bydd y gronfa yn rhedeg o fis Ebrill 2018 a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu rhaglenni cymorth manwl sy'n cynnwys ystod o ymyriadau.

Llywydd, rwyf eisiau troi i drafod cyfalaf nawr. Rwyf wedi bod yn trafod arian canlyniadol cyfalaf, gan gynnwys trafodion ariannol, ymhellach gyda Gweinidogion. Rwyf hefyd wedi parhau i drafod materion o ddiddordeb cyffredin gyda Phlaid Cymru. Heddiw, byddwn yn hoffi nodi rhai penderfyniadau cynnar ar flaenoriaethau cyfalaf disyfyd a gaiff eu ffurfioli mewn cyllidebau atodol. Dyrennir tri deg miliwn o bunnoedd eleni yn yr ail gyllideb atodol i raglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Defnyddir yr arian hwn i gefnogi ein huchelgais gyffredin ledled gwahanol rannau'r Siambr hon i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2015. Mae'n golygu y gellir rhyddhau £30 miliwn o arian cyfatebol o'r rhaglen yn y dyfodol i gefnogi prosiectau cyfalaf a neilltuwyd i gefnogi a datblygu'r defnydd o'r iaith Gymraeg mewn addysg. Ar ben hynny, ac er mwyn cyflymu gwaith hynod lwyddiannus band B rhaglen addysg ac ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, byddaf yn dyrannu £75 miliwn dros y tair blynedd nesaf mewn cyfalaf ychwanegol i Brif Grŵp Gwariant fy nghydweithwraig, Ysgrifennydd y Cabinet dros addysg, fel y gall lywio'r rhaglen honno ymhellach ac yn gyflymach nag y byddai wedi gallu gwneud fel arall.

Mae saith deg miliwn o bunnoedd mewn cyfalaf ychwanegol yn mynd at y GIG drwy gydol 2018-19 a 2019-20 i ganiatáu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fwrw ymlaen â'i ystyriaeth o'i amrywiaeth o flaenoriaethau clinigol, gan gynnwys y cymorth parhaus i'r Ganolfan Ganser newydd yn Felindre a buddsoddi yn y gwasanaethau i'r newyddanedig yn ysbytai Glangwili a Singleton. Llywydd, yng nghyllideb yr Hydref, fe wnaethom ni dderbyn £14.6 miliwn ar gyfer 2018-19 a 2020-21 ar gyfer ansawdd aer. Rwyf i wedi dyrannu refeniw ychwanegol eisoes ar gyfer ansawdd aer yn y gyllideb derfynol. Heddiw, gallaf ddweud y byddwn yn defnyddio'r £14.6 miliwn hwnnw fel gwariant cyfalaf i gynorthwyo Ysgrifennydd i Cabinet gyda chyfrifoldeb am y maes hynod bwysig hwn yng Nghymru. Rwyf hefyd yn trafod cynigion ar gyfer cynllun adnewyddu ffyrdd o hyd at £30 miliwn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a fydd yn rhoi buddsoddiad newydd hanfodol yn ein ffyrdd lleol.

Llywydd, byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ochr yn ochr â chyhoeddi fersiwn newydd o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn ddiweddarach y gwanwyn hwn. Bydd hyn yn cynnwys cyllid, sy'n cefnogi 'Ffyniant i Bawb', ar gyfer canolfan economaidd y Cymoedd fel rhan allweddol o gynllun tasglu'r Cymoedd, rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o'r trafodaethau â Plaid Cymru. Llywydd, wrth wraidd y gyllideb derfynol hon y mae'r gwasanaethau y mae pobl yng Nghymru yn dibynnu arnyn nhw. Mae'n rhoi buddsoddiad ychwanegol yn ein gwasanaeth iechyd ac mewn Llywodraeth Leol. Mae'n ymwneud yn uniongyrchol â'r heriau yr ydym yn eu wynebu heddiw o ran digartrefedd a gwella ansawdd aer. Mae'n creu cyfleoedd newydd ar gyfer y dyfodol drwy fuddsoddi mewn addysg ac yn ein heconomi. Mae'n gwneud hynny drwy reoli ein hadnoddau yn fanwl ac yn ofalus, drwy weithio gydag eraill i nodi tir cyffredin, a mynd ar drywydd y blaenoriaethau blaengar hynny sy'n ysgogi'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.