Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 16 Ionawr 2018.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid am ei ddatganiad, a hefyd am ei gydweithrediad yn ystod y broses o lunio cyllideb â Chadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac aelodau'r pwyllgor hwnnw a chyda minnau hefyd?
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod wedi cael eich araith yn gymysgedd ryfedd braidd, Ysgrifennydd y Cabinet, a byddwn yn dweud ei bod ychydig fel y gyllideb, yn dda mewn ambell i fan ond heb fod cystal mewn mannau eraill. Rydych wedi sôn am yr effaith negyddol y mae Llywodraeth y DU a'i rhaglen, yn eich barn chi, wedi ei chael ar gyllideb Cymru. Ac er fy mod yn derbyn bod toriadau wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf—wnawn ni ddim mynd ar ôl pam a sut y daeth y toriadau hynny—mae gennyf i yma ddatganiad ysgrifenedig o'r eiddoch chi, wedi ei gyhoeddi heddiw, rwy'n credu, yn trafod y canlyniadau hynny sydd wedi dod gerbron Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i'r gyllideb honno. Mae'r rhain yn cynyddu gwariant ychwanegol yng Nghymru, ac mae'r gyllideb wedi ei dyrannu gennych mewn ffordd y byddech yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ei gwneud. Felly, rwyf i o'r farn mai gwleidyddol yn ôl pob tebyg oedd naws negyddol eich cyfraniad yn hytrach na realistig. Ond gan ein bod mewn Siambr wleidyddol mae'n siŵr y byddech yn disgwyl hynny.
Nawr, nid wyf yn awyddus i fynd dros ormod o dir a nodais i yn y ddadl ar y gyllideb ddrafft cyn y Nadolig. Er hynny, yn ôl ym mis Rhagfyr, gofynnais i'r cwestiwn sylfaenol, 'Beth mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gyflawni?' A yw'n ceisio dyrannu arian i wahanol gyllidebau neu a yw'n ceisio gwneud mwy na hynny i fynd i'r afael â heriau hirdymor a cheisio newid economaidd sylfaenol i'r economi? Nawr, o ystyried y pwerau cyllidol newydd y soniodd Simon Thomas eu bod ar fin dod i Lywodraeth Cymru—benthyca, ac, yn wir, ddatganoli grym i drethu—byddwn i o'r farn mai'r olaf ddylai fod yn nod i ni, ac rwy'n credu mai dyna farn Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Yn anffodus, rwy'n credu bod y gyllideb hon yn ddiffygiol yn hyn o beth. Nawr, rwy'n sylweddoli eu bod yn dyddiau cynnar o hyd ac mae'r pwerau hynny yn aros yn y broses drosglwyddo. Ond byddwn i'n disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn edrych ar ffyrdd y gellir defnyddio'r pwerau hynny, ac o ystyried y bydd gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru bwerau ariannol ychwanegol sylweddol erbyn amser y gyllideb nesaf, credaf fod y gyllideb hon yn brin o wneud defnydd o'r rheini.
Os caf i gyfeirio'n unig at rai o'r pwyntiau a wnaed gan adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft, cafwyd pryderon parhaus am dryloywder, ac mae'r rhain yn allweddol i rai o'n pryderon ni. Nid yw'r cysylltiadau rhwng dyraniadau'r gyllideb a'r rhaglen lywodraethu yn ddigon cryf. O 2019 i 2020, rydym yn gwybod y bydd un grant ar gyfer nifer o brosiectau, gan gynnwys Dechrau'n Deg a Chefnogi Pobl, ac fe gymerodd y Pwyllgor Cyllid dystiolaeth gan nifer o sefydliadau. Rwy'n credu mai Cymorth Cymru oedd gryfaf yn eu pryderon wrth ddweud ei bod yn fwyfwy anodd olrhain y cyllid sy'n dod ar hyn o bryd drwy Gefnogi Pobl dan y drefn newydd, ac mae hynny'n peri pryder. Ymddengys bod pethau yn mynd tuag yn ôl mewn rhai ardaloedd o ran tryloywder, yn hytrach nag ymlaen.
Os caf i droi at ran fawr cyllideb Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd, yr oeddech chi'n sôn am arian ychwanegol ar ei gyfer—o ganlyniad i symiau canlyniadol Llywodraeth y DU—yn eich datganiad ysgrifenedig heddiw. Wrth gwrs, rydym i gyd yn croesawu unrhyw arian ychwanegol i'r GIG. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, wedi galw am hynny ers amser maith—mewn gwirionedd yn ôl yn yr adeg pan oedd rhai toriadau gwirioneddol yn cael eu gwneud i gyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ystod y Cynulliad diwethaf. Serch hynny, nid wyf i'n cytuno â'r pwyntiau a wnaeth Mike Hedges ac eraill fod yn rhaid cynllunio'n strategol i ble'r aiff yr arian hwnnw a'r math o fanteision yr ydych yn mynd i gael yn ei sgil. Ac nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod ymdeimlad, o leiaf, yn sicr fod arian wedi ei sianelu i'r GIG dros y misoedd diwethaf a'r flwyddyn yn fras—a yw hwnnw'n mynd i ddatblygu newid trawsnewidiol priodol o fewn y GIG mewn gwirionedd, neu a yw'n mynd i gael ei lyncu gan rai o'r toraidau mewn cyllideb y mae ein byrddau iechyd wedi dioddef ohonynt. Rwyf i o'r farn mai'r consensws cyffredinol ar hyn o bryd yw mai'r olaf sydd fwyaf tebygol o fod yn wir. Felly, ni fydd hynny'n arwain at y math o newid trawsnewidiol yr ydym yn eiddgar i'w weld.
Nid oes sôn wedi bod am atal, ac eto caiff hyn ei grybwyll mewn llawer dadl a gawn yn y lle hwn am y gwasanaeth iechyd. Os ydych chi'n dweud, ar yr un pryd, fod atal yn rhan bwysig iawn o gadw costau iechyd i lawr yn y dyfodol, nid yw'n ymddangos ei bod yn gwneud synnwyr fod Llywodraeth Leol yn wynebu toriadau difrifol, a fydd wedyn yn effeithio ar ganolfannau hamdden ac yn effeithio ar chwaraeon, rhan arall o'r briff iechyd, a fydd, yn y pen draw, yn arwain at broblem gydag hyrwyddo atal—ni fydd yn ei wella. Felly, fel y dywedais ar ddechrau fy nghyfraniad—