Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 16 Ionawr 2018.
Mae'n ofyniad, wrth gwrs, mewn Senedd lle nad oes gan y Llywodraeth fwyafrif—mae hynny'n wir, wrth gwrs, am ran fwyaf y cyfnod yr oeddem ni'n ei drafod—i ddod i gytundeb. Mae hynny yn gofyn am elfen o wyleidd-dra ar ran y Llywodraeth. Mae hefyd yn gofyn am agwedd adeiladol, a dweud y gwir, o ran y gwrthbleidiau. Mae hynny yn rhan o broses ddemocrataidd gref mewn Senedd aeddfed. Rydw i wedi bod yn falch iawn i wneud fy nghyfraniad i at y broses yna, ond hefyd a gaf i roi diolch i Steffan Lewis, fel mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud yn barod, ar gyfer ei gyfraniad e?
A gaf i ddyfynnu cwpl o enghreifftiau o'r amrediad o bolisïau positif, arloesol yr oedd y blaid wedi llwyddo i'w cael nawr fel rhan o raglen y Llywodraeth trwy'r math yna o gyd-drafod? Mae'r Ysgrifennydd Cabinet eisoes wedi sôn am y gronfa baratoi ar gyfer Brexit, ac roedd Steffan wedi bod yn pwsio hynny ers meitin ar ôl gweld yr effaith yr oedd yr un math o gynllun yn cael yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae'r Llywodraeth erbyn hyn, wrth gwrs, wedi penderfynu adeiladu ar y seiliau a oedd wedi'u gosod yn y cytundeb drafft gyda chynllun llawer mwy uchelgeisiol.
Mi oedd Steffan hefyd wedi bod yn pledio'r achos ers tipyn dros greu clinig arbenigol ar gyfer iechyd meddwl amenedigol, perinatal, ac wedi llwyddo, trwy gyfrwng y cytundeb a thrafodaethau cyllideb, mewn gwirionedd, i newid polisi, i newid meddwl. Onid yw hynny hefyd yn enghraifft o wleidyddiaeth bositif, adeiladol?
Ar ddiwedd y dydd, pam ydym ni i gyd yn dod mewn i'r lle yma? I wneud Cymru tipyn bach yn well na'r cyflwr yr oedd hi ynddo cyn inni ddod yma. Dyna'r gwir, yntefe? Wrth gwrs, mae yna rôl ar gyfer gwrthwynebu. Gwnes i fy nghyfran o hynny am naw mlynedd lawr yn San Steffan, ac roedd yna lawer o bethau pwysig i'w gwrthwynebu. Y rheswm y des i i'r lle yma yn hytrach oedd i adeiladu, yntefe? Nid dim ond i wrthwynebu, ond i adeiladu, ac mae hynny'n golygu bod gwrthbleidiau, wedyn, yn ymddwyn yn gyfrifol, a'u bod, lle mae yna dir cyffredin, yn ceisio adeiladu ar y tir cyffredin hynny. Nid yw hynny'n golygu nad ydych chi'n dweud yn glir ac yn groyw lle mae'r Llywodraeth yn anghywir. Mae yna bethau yn y gyllideb nad ydym ni'n cytuno â nhw, a dyna pam rŷm ni'n ymatal. Ond trwy'r trafodaethau, rydym ni wedi medru, er enghraifft, cael y buddsoddiad mwyaf erioed ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae'r Ysgrifennydd Cabinet wedi cyhoeddi heddiw yr arian—dau tranche of £30 miliwn—ar gyfer ysgolion, £20 miliwn o arian refeniw hefyd yn y gyllideb ddrafft: y buddsoddiad mwyaf erioed er mwyn cyrraedd y nod, wrth gwrs, gyda'r uchelgais hynny erbyn canol y ganrif hon.
Pethau lleol, pethau rhanbarthol—cael gwared â'r tollau ar bont Cleddau, sy'n bwysig iawn i'r ardal yna. Trafnidiaeth—cael y commitment cyntaf o ran metro ar gyfer bae Abertawe a Chymoedd y gorllewin; ymestyn y metro yn ne Cymru i ardaloedd fel y Rhondda Fach, sydd heb drafnidiaeth gyhoeddus a modern ar hyn o bryd; ac, wrth gwrs, buddsoddi yn ein heolydd ni hefyd, sydd yn bwysig: er enghraifft yr A487 a’r A470. Rydym yn gweld buddsoddiad ym mhob rhan o Gymru. Hynny yw, pan oeddwn i'n gweld y cyhoeddiad ddoe ynglŷn â hub trafnidiaeth £180 miliwn i Gaerdydd—byddai sawl ardal yng Nghymru yn lico gweld y math yna o fuddsoddiad. Mae’n rhaid inni gael buddsoddiad trwy Gymru gyfan, buddsoddiad mewn sefydliadau cenedlaethol—hynny yw, yr amgueddfa bêl-droed ar gyfer Wrecsam, sef rhan o Gymru sydd heb sefydliad diwylliannol cenedlaethol. Nid oes un wedi bod, a dweud y gwir, ers pan oedd Edward Owen, ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf am rai blynyddoedd, yn rhedeg y comisiwn henebion o’i gartref yn Wrecsam. Ers hynny, nid oes sefydliad diwylliannol cenedlaethol wedi bod yn y gogledd-ddwyrain, ac nid yw hynny’n iach i’n cenedl ni. Rwy’n falch o weld y commitment o ran cyfalaf i’r amgueddfa bêl-droed fel ein bod ni'n gallu rhoi neges glir i bob rhan o Gymru: Cymry un genedl ydym ni, ac mae angen, wrth gwrs, adlewyrchu hynny yn ein blaenoriaethau.