Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 16 Ionawr 2018.
Os yw'r Ysgrifennydd Cyllid yn ildio, mae hynny'n wyrdroad llwyr o'r ddadl a wneuthum yn fy araith. Nid nad oes angen unrhyw un o'r pethau hynny, mae'n golygu bod yn rhaid inni fyw o fewn ein modd yn y byd go iawn, ac na allwch chi fenthyca am byth i dalu am bethau na allwch chi eu fforddio.