Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 16 Ionawr 2018.
Ie, wel, yr hyn ddaeth ag America allan o'r dirwasgiad mewn gwirionedd oedd, wrth gwrs, y rhyfel. Ceir ffyrdd amrywiol o godi gweithgarwch economaidd, ond nid wyf i o'r farn mai rhyfel o reidrwydd yw'r dewis mwyaf deniadol.
Ond fe ddaw yfory yn anochel. Rydym yn gwario £50 i £60 biliwn y flwyddyn ar log ar ddyledion yn y DU. Os cymerwn ni gyfran Cymru o hynny, efallai fod hynny'n £2 biliwn y flwyddyn. A fyddai'n well gennym ni wario £2 biliwn y flwyddyn yn ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd neu ar ddeiliaid y ddyled genedlaethol? Mewn gwirionedd, yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud yw gwladoli rhan fawr o'r ddyled genedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd mae Banc Lloegr mewn gwirionedd wedi bod yn prynu bondiau oddi wrth y sector preifat. Ni all pennu gwerth ariannol y ddyled genedlaethol barhau am gyfnod amhenodol heb yr un fath o oblygiadau i chwyddiant sydd wedi llethu gwledydd fel Zimbabwe neu Venezuela.
Er fy mod o'r farn fod y Llywodraeth yn mynd ar gyfeiliorn yn genedlaethol yn San Steffan o ran llawer o'i blaenoriaethau, bu ei pholisi cyffredinol ar wariant cyhoeddus, yn fy marn i, yn llac ac nid yn llym, ac mae wedi creu problemau i'r dyfodol. Rydym yn gwneud môr a mynydd yn y lle hwn o Ddeddf Cenedlaethau'r Dyfodol. Ac rwy'n credu ei fod yn beth da iawn, mewn egwyddor, inni feddwl am effaith ein penderfyniadau heddiw ar y cenedlaethau sydd i ddod. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw gwthio cost ad-dalu'r dyledion yr ydym yn eu cronni heddiw ar genedlaethau'r dyfodol, ac nid wyf i o'r farn y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn diolch inni am hynny. Ond, wrth gwrs, nid oes pleidleisiau ganddyn nhw heddiw, felly nid oes angen inni ofidio am y peth, ac ni fyddwn ni yma pan fyddan nhw'n pleidleisio—o leiaf, ni fyddaf i yma; mae hynny'n annhebygol
Rwyf i o'r farn mai naws o gyfrifoldeb ddylai fod gennym ni ar unrhyw ddadl o ran cyllideb. Yn drist, rwy'n ofidus am y dyfodol os mai dyma'r math ar araith a wnaeth yr Ysgrifennydd dros Gyllid heddiw. Mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i godi trethi a gwneud penderfyniadau ar wariant a gwneud penderfyniadau ar fenthyca mewn maes ehangach o lawer, ac mae'r pŵer ganddi i wneud hynny bellach, oherwydd fel hynny, yn fy marn i, y daw'r math ar ddistryw economaidd sydd wedi llesteirio cymaint o Lywodraethau Llafur yn ystod fy oes i.