Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 16 Ionawr 2018.
Rwy'n siarad heddiw o blaid y gyllideb derfynol a bennwyd gan yr Ysgrifennydd dros Gyllid fis diwethaf. Mae'r gyllideb hon yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol y mae cymunedau ledled Cymru yn dibynnu arnyn nhw. Gwelir y cyflawniad hwn ar wedd sydd hyd yn oed yn fwy rhyfeddol wrth inni ystyried effaith niweidiol polisïau Llywodraeth bresennol y DU. Mae obsesiwn y Torïaid gyda'u hagenda llymder, a oedd yn fethiant, wedi cael ei ategu gan eu camreoli economaidd a'u dull dryslyd o gael Brexit wedi achosi niwed sy'n parhau i'n heconomi. Canlyniad hyn fu degawd o ostyngiadau yn yr arian sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae penderfyniadau torïaidd yn San Steffan yn golygu bod hyn wedi gostwng mewn termau real o 7 y cant rhwng 2010-11 a 2019-20. Mae hynny dros £1 biliwn yn llai ar gyfer ysgolion, ysbytai a chymunedau. Os ydym yn archwilio manylion y gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru, mae'r cyferbyniad yn cael ei atgyfnerthu ymhellach.
Fel cyn athrawes, mae gwariant ar addysg yn bwysig yn fy ngolwg i. Rwy'n croesawu cynhaliaeth y grant datblygu disgyblion, a gwn o brofiad ei fod yn cryfhau ymyriadau i gefnogi plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru yn gwireddu ei haddewidion, nid dim ond yn trafod safonau ysgolion ond yn clustnodi £50 miliwn i wthio hynny yn ei flaen. Mae'r £40 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion yr unfed ganrif hefyd yn arwydd pwysig o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i bobl ifanc. Rwy'n falch mai Cwm Cynon yw'r etholaeth sydd wedi elwa fwyaf hyd yn hyn o'r polisi hwn, gyda gwelliannau pellgyrhaeddol i ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnwys llawer o adeiladau newydd a champws coleg addysg bellach newydd sbon hefyd. Efallai fod rhai yn dweud mai dim ond adeiladau o frics a morter yw ysgolion, ond mae amgylchedd dysgu mewn gwirionedd yn effeithio ar gyflawniad, a bydd yn cynnig cyfle i'n pobl ifanc anelu at wneud eu gorau. Rwy'n siŵr nad oes raid imi atgoffa'r Aelodau o'r difrod a achoswyd yn Lloegr gan Michael Gove pan ddiddymodd Adeiladu Ysgolion i'r Dyfodol. Dau lwybr gwahanol gan Lywodraeth, dwy stori wahanol am fuddsoddi mewn addysg.
Yn yr un modd, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu arian ychwanegol i wneud gwelliannau i seilwaith a chael polisïau a fydd yn cryfhau ein heconomi ac yn sicrhau y gall Cymru gystadlu yn y blynyddoedd i ddod. Mae £173 miliwn o'r cronfeydd wrth gefn ar gyfer metro de Cymru yn cynnig y posibilrwydd o drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Mae creu Banc Datblygu Cymru a buddsoddiad cyfalaf ychwanegol ar gyfer Cyflymu Cymru hefyd yn hollbwysig i'n perfformiad economaidd. Mewn gwrthgyferbyniad, mae Torïaid San Steffan unwaith eto yn siomi Cymru, fel y dangosir, er enghraifft, yn eu hanweithgarwch gyda morlyn llanw Bae Abertawe a thorri eu haddewid gyda thrydaneiddio'r rheilffordd.
Rwyf hefyd yn awyddus i dreulio munud yn siarad am yr ymyriadau sydd wedi'u cynnwys yng nghyllideb Cymru ar gyfer Cefnogi Pobl. Rwy'n gwybod fod llawer o drafod wedi bod am y grant hwn, felly rwy'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i barhau â'r cyllid hwn. Cwrddais i â grŵp o ddefnyddwyr y gwasanaeth ddoe ddiwethaf, mewn cyfarfod a gafodd ei drefnu gan fwrdd cynghori cenedlaethol Cefnogi Pobl ac rwyf wedi ymweld â nifer o brosiectau yn fy etholaeth i, felly rwy'n gwybod pa mor hanfodol yw'r llinell hon o gyllid.