Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 16 Ionawr 2018.
Wel, roedd hi'n ddefnyddiol iawn, pan gawsom ni gyfarfod gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ei bod hi wedi edrych ar enghreifftiau ymarferol iawn o, er enghraifft, yr agenda ataliol, a thynnu sylw at y ffaith bod y gronfa gofal integredig, yn rhan o hynny, yn gweddu'n dda iawn i nodau Deddf cenedlaethau'r dyfodol.
Ond rwy'n parhau i ddweud, o ganlyniad i ymgysylltiad y trydydd sector, mae gennym ni wasanaeth trydydd sector sy'n rhannu lleoliad gyda Gwasanaeth Adnoddau Cymunedol y Fro yn Ysbyty'r Barri, ac mae hynny'n arwain at symleiddio atgyfeiriadau a rhagnodi cymdeithasol. Wrth gwrs, dyma'r enghreifftiau y mae angen inni eu rhoi, a fydd hefyd yn helpu i ymateb i'r adolygiad.
Mae'n bwysig iawn inni roi sylw i'r cwestiwn o bwy sy'n talu am ofal cymdeithasol, ac roeddwn yn falch fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cynnwys cynnig yr Athro Gerry Holtham i archwilio'r posibilrwydd o gael ardoll i gefnogi gofal cymdeithasol yn rhan o'r pedwar syniad treth newydd. Gobeithiaf yr eir ar drywydd hyn, hyd yn oed os nad yw'n opsiwn treth newydd fydd yn cael ei brofi gyda Llywodraeth y DU. Soniodd Gerry, wrth gwrs, yn ddiweddar am hyn yng nghyd-destun gwariant cynyddol ar y GIG a'r pwysau.
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwneud tai yn flaenoriaeth yn ei gynlluniau cyllideb drafft, a gymeradwywyd gan y Cynulliad, wrth gwrs. Ac yn y gyllideb ddrafft, roedd cyfalaf ychwanegol a buddsoddiad refeniw wrth gwrs, gan gynnwys £20 miliwn i fynd i'r afael â digartrefedd, ac rwy'n croesawu'r £10 miliwn ychwanegol i dargedu digartrefedd ymysg pobl ifanc. Unwaith eto, blaenoriaeth glir Llywodraeth Lafur Cymru. Mae'r gyllideb hon yn ymwneud â blaenoriaethau ac egwyddorion ac fi hoffwn i ganmol yr Ysgrifennydd Cyllid ynglŷn â sut yr aeth ati i ymdrin â'n pwerau cyllidol newydd. Mae'n braf dysgu y bydd effaith y pwerau cyllidol newydd hyn yn darparu refeniw ychwanegol o £17 miliwn o ganlyniad i arian gwaelodol parhaol, a £30 miliwn o ganlyniad i benderfyniadau a wneir o ran incwm o drethi datganoledig. Bydd gwariant cyfalaf hefyd yn cael hwb o ganlyniad i'n pwerau benthyca estynedig a hefyd, wrth gwrs, mae gennym ni'r cyhoeddiad derbyniol hwnnw heddiw ynglŷn â'r chwistrelliad cyfalaf.
Pan gawsom ni dystiolaeth gan gyfarwyddwr y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, Robert Chote, yn y Pwyllgor Cyllid ym mis Rhagfyr, gwnaeth ef sylwadau cadarnhaol ynglŷn â sut yr aeth Llywodraeth Cymru ati i osod cyfraddau a bandiau'r dreth trafodiadau tir newydd. Wrth gwrs, yn dilyn y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd mwy o brynwyr tai yn elwa o'i newidiadau i'r dreth trafodiadau tir gyda phobl sy'n prynu cartrefi yng Nghymru am lai na £180,000 yn talu dim treth o dan y newidiadau i'r dreth trafodiadau tir a'r trethi a ddatganolir ym mis Ebrill, soniodd Robert Chote am Gymru yn gwthio'r system i gyfeiriad mwy blaengar. Mae hyn yn gyson â nod Ysgrifennydd y Cabinet i wneud treth yn decach a chyfrannu at Gymru sy'n fwy cyfartal, a chroesawaf y dystiolaeth hon o roi egwyddorion ar waith gyda'n pwerau cyllidol treth newydd pwysig yng Nghymru.
Felly, fe hoffwn i orffen drwy ychwanegu at y datganiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet a chyd-Aelodau heddiw ar effeithiau cyllidol cyni. Pobl anabl, rhieni sengl a menywod sydd wedi bod ymhlith y rhai sydd fwyaf ar eu colled o dan saith mlynedd o gyni. Ac ers i'r Llywodraeth glymblaid orfodi cyni yn 2010, wrth gwrs, fe wnaethom ni wrthwynebu'r toriadau cynnar iawn hynny, ond mae'r toriadau hynny wedi cynyddu i dros £1 biliwn dros yr wyth mlynedd diwethaf. Mae Llywodraeth bresenol Cymru wedi codi tarian yng Nghymru i liniaru yn erbyn y cyni a'r toriadau. Felly, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi cyllideb newydd ar gyfer Cymru, sy'n adlewyrchu pwerau treth a benthyca newydd Llywodraeth Cymru. Mae'n defnyddio'r pwerau newydd hyn i gyflawni blaenoriaethau a fydd o fantais i iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a thai, ac yn ategu'r economi mewn ffordd deg a chadarn, ac rwy'n cymeradwyo'r gyllideb hon.