Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch, Jane, am ildio. Cytunaf gyda'r hyn a ddywedwch chi am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol. Credaf, mewn egwyddor, ei bod hi'n ddarn gwych o ddeddfwriaeth, ond cafodd y Pwyllgor Cyllid broblemau mawr yn profi sut, mewn gwirionedd, yr oedd y gyllideb mewn difrif yn cael ei heffeithio gan ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol ac fel arall. Rwy'n gwybod, pe byddai Steffan Lewis yma, y byddai fwy na thebyg yn gwneud y pwynt hwnnw, felly fe wnaf i'r pwynt ar ei ran, ond a ydych chi'n cytuno â mi bod angen gwella hynny?