Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf i gymeradwyo Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018. Mae'r Gorchymyn yn gosod y lluosydd ardrethu annomestig at ddibenion 2018-19. Rwyf yn cydnabod y bu amser cyfyngedig i Aelodau ystyried y Gorchymyn. Roedd hyn yn angenrheidiol oherwydd amseriad cyhoeddiad y Canghellor yng nghyllideb yr hydref i gyflymu ei gynlluniau i gynyddu'r lluosydd yn Lloegr gan ddefnyddio mynegai prisiau defnyddwyr, CPI, yn hytrach na mynegai prisiau manwerthu, RPI.