Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 16 Ionawr 2018.
Llywydd, yn flaenorol roedd Llywodraeth y DU wedi nodi ei bwriad i newid y mesur chwyddiant a ddefnyddir i gyfrifo'r lluosydd yn Lloegr o'r RPI i'r CPI o 1 Ebrill 2020. Cafodd y cynlluniau hyn eu dwyn ymlaen i 1 Ebrill 2018 yng nghyllideb yr Hydref. Ni chafodd Llywodraeth Cymru wybod am y newid hwn yn y cynllun cyn y cyhoeddiad, ac rydym ni wedi gorfod ystyried yn llawn y costau a'r goblygiadau o fabwysiadu dull tebyg ar gyfer Cymru cyn gwneud penderfyniad i newid y sail ar gyfer cyfrifo'r lluosydd yng Nghymru, gan baratoi offeryn angenrheidiol a dod ag ef gerbron y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma.
Mae angen cymeradwyo'r Gorchymyn cyn y gellir cael pleidlais ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol, ac roedd y ddadl ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol eisoes wedi'i threfnu ar gyfer heddiw. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am roi ystyriaeth gynnar i'r Gorchymyn lluosydd, sydd wedi ein galluogi i'w drafod heddiw. Nododd y Pwyllgor yr amserlen fer i ystyried y gorchymyn, ond nododd hefyd ei fod yn eithaf byr a syml. Pe bawn i wedi gallu osgoi'r amserlenni tynn, Llywydd, byddwn yn sicr wedi dymuno gwneud hynny.
Cododd y Pwyllgor hefyd bwynt o ragoriaeth sy'n ymwneud â ffigur a nodwyd yn y nodyn esboniadol i'r Gorchymyn a'r Gorchymyn na chyfeirir ato yn y Memorandwm Esboniadol. Rwy'n ymddiheuro, wrth gwrs, am hepgor hyn, ac yn derbyn barn y Pwyllgor y byddai esboniad llawnach wedi bod yn ddefnyddiol wrth ddisgrifio effeithiau cyffredinol y Gorchymyn. Byddai oedi, fodd bynnag, wrth gymeradwyo'r Gorchymyn, yn golygu gohirio'r ystyriaeth o adroddiad cyllid llywodraeth leol, gyda chanlyniadau amlwg ar gyfer cynllunio cyllidebau awdurdodau lleol. Byddai hefyd yn arwain at ansicrwydd diangen ar gyfer talwyr ardrethi annomestig yng Nghymru, gan roi llai o amser i baratoi ar gyfer eu cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Bydd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018 yn gosod y lluosydd ar gyfer 2018-19, gan ddefnyddio'r mynegai prisiau defnyddwyr yn hytrach na'r mynegai prisiau manwerthu yn sail ar gyfer cyfrifo'r lluosydd. Effaith hyn fydd cyfyngu cynnydd yn yr holl filiau ardrethi annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd busnesau yng Nghymru yn elwa o £9 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf, a £22 miliwn yn 2019-20, gan y bwriadwn fabwysiadu'r un dull gweithredu ar gyfer y dyfodol, gan gyflwyno Gorchymyn i'r Cynulliad ei ystyried yn 2019-20.