Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 16 Ionawr 2018.
Doeddwn i ddim yn mynd i siarad yn y ddadl hon, oherwydd, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r offeryn hwn. Fodd bynnag, rwyf wedi cael fy ysbrydoli i wneud hynny gan y sylwadau a wnaed gan Adam Price. Er bod gennyf beth cydymdeimlad â'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud, Adam, o ran eich ymrwymiad hirhoedlog i newid y system ardrethi busnes yng Nghymru a'r awydd i wneud rhywbeth gwahanol yma, rwyf yn teimlo ein bod ni lle'r ydym ni o ran y system gyfredol, ac os, fel y deallaf yn iawn, ein bod yn sôn am ddilyn y model ar draws y ffin a symud o'r mynegai prisiau manwerthu i'r CPI yn yr un modd ag sy'n digwydd yno, ni allaf weld sut—. Os ydych chi'n osgoi gwneud hynny, rydych chi'n anochel yn mynd i achosi anfantais i fusnesau yma. Dim ond oherwydd y teimlwch chi y gallan nhw fod o dan anfantais ar hyn o bryd, Adam Price, nid yw hynny felly'n golygu na fyddent yn wynebu mwy o anfantais tan fyddai'r system yn cael ei newid. Felly, ar y sail honno, Ysgrifennydd y Cabinet, mae gennych chi gefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig yn hyn o beth. Ond rwyf ar yr un pryd yn eich annog chi i edrych ymhellach ar fesurau mwy—