5. Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2018

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 16 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 4:58, 16 Ionawr 2018

Mae Plaid Cymru yn cydymdeimlo gyda chynnwys technegol y Gorchymyn hwn i raddau helaeth, sef y bwriad i newid y mesur chwyddiannol sy'n cael ei ddefnyddio er mwyn cyfrifo lluosydd ardrethi busnes—hynny yw, newid i CPI yn hytrach nag RPI. Rydym ni wedi bod yn galw am hynny ers peth amser. Ond, o edrych ar y darlun ehangach, pan rŷm ni'n edrych ar y memorandwm esboniadol—sydd, am wn i, yn uniaith Saesneg, gyda llaw—rŷch chi'n esbonio mai pwrpas y Gorchymyn hwn yw cefnogi twf economaidd a lleihau'r baich trethiannol ar fusnesau a threthdalwyr annomestig eraill yng Nghymru. Rŷch chi hefyd yn dweud eich bod chi'n anelu i sicrhau nad ydy busnesau yng Nghymru o dan anfantais o gymharu â rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

Wel, y sefyllfa yw bod busnesau bach yng Nghymru o dan anfantais o’u cymharu â rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig oherwydd pa bynnag gyfrannau mesur chwyddiant sydd yn cael eu defnyddio yng Nghymru, mae bodolaeth un lluosydd ar gyfer pob busnes, mawr neu fach, yn golygu bod busnesau bach o dan anfantais. Yn yr Alban a Lloegr, mae lluosydd gwahanol ar gael ar gyfer ardrethi busnesau mawr a bach, ac mae hwnnw’n golygu wedyn bod yna fodd sicrhau elfen fwy o degwch yn y system ardrethu. Felly, oherwydd hynny, mi fyddwn ni, yn symbolaidd, felly, yn pleidleisio yn erbyn y Gorchymyn hwn.

Rŷm ni’n teimlo rhwystredigaeth gynyddol gyda chyflymdra’r newid polisi yn y maes yma. Rydym ni byth a beunydd fel Aelodau Cynulliad yn ymwybodol o’r rhwystredigaeth sydd yn y gymuned fusnes gyda’r dreth sydd yn dyddio yn ôl canrifoedd ac sydd ddim, a dweud y gwir, yn gymwys ar gyfer yr oes sydd ohoni. Rwyf yn edrych ymlaen at barhau â thrafodaethau adeiladol â’r Ysgrifennydd Cabinet mewn fforymau eraill i edrych ar ddiwygio ar lefel radical, gan gynnwys hyd yn oed ddiddymu’r dreth yma ac edrych ar opsiynau amgen. Ond, tra ein bod ni yn dal yn trafod y fframwaith fel y mae, sydd yn annigonol, mae arnaf i ofn, yn yr achos yma, y bydd yn rhaid i Blaid Cymru wrthwynebu’r Gorchymyn yma fel pleidlais symbolaidd.