Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 16 Ionawr 2018.
Diolch, Llywydd. Bu'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystyried yr offeryn hwn yn ein cyfarfod ar 8 Ionawr. Adroddwyd am ddau bwynt rhagoriaeth a nodwyd o dan Reol Sefydlog 21.3.
Y pwynt cyntaf a ystyriwyd gan y Pwyllgor yw bod y Gorchymyn wedi'i gyflwyno gerbron y Cynulliad ar 4 Ionawr 2018. Fel arfer, mae gan y Pwyllgor 20 diwrnod o ddyddiad cyflwyno'r adroddiad ar yr offerynnau statudol. Gofynnwyd i'r Pwyllgor, mewn gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet, i adrodd ar y Gorchymyn cyn heddiw i ganiatáu i'r Gorchymyn gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn i'r Cynulliad ystyried yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi adrodd amdano.
Mewn gwirionedd, oherwydd amserlen cyfarfodydd y Pwyllgor, roedd hyn yn golygu mai dim ond pedwar diwrnod oedd gennym ni ar ôl cyflwyno'r Gorchymyn i ystyried yr offeryn hwn. Rydym ni, yn bwysig, yn cydnabod y pwysau amser ar Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r oedi a fu gyda datganiad yr Hydref a'r camau sydd eu hangen i gyrraedd y pwynt hwn cyn i'r Cynulliad allu cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol erbyn y dyddiad cau gofynnol. Rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r canlyniadau difrifol os nad yw hyn yn digwydd. Fodd bynnag, mae hyn wedi golygu amserlen lawer tynnach i'r pwyllgor ystyried a chyflwyno adroddiad ar yr offeryn hwn. Gan fod y Gorchymyn yn gymharol fyr a syml, roeddem yn gallu bodloni cais Llywodraeth Cymru. Serch hynny, rwy'n annog y Llywodraeth i roi cymaint o rybudd â phosibl i'r Pwyllgor os yw hi'n dymuno inni graffu ar offerynnau statudol o fewn terfyn amser byrrach na'r hyn y darperir ar eu cyfer yn y Rheolau Sefydlog.
Yn ail, mae'r Gorchymyn yn pennu'r ffigur lluosydd newydd, ac fe'i hesbonnir yn y nodyn esboniadol. Fodd bynnag, ni chyfeirir at y rhif hwn o gwbl yn y memorandwm esboniadol, sydd yn ddogfen ar wahân a fwriadwyd i egluro bwriadau'r offeryn. O ystyried bod y ffigur hwn mor hanfodol, rydym ni o'r farn y gallai'r memorandwm esboniadol sy'n mynd gyda'r Gorchymyn hwn fod wedi bod yn fwy defnyddiol wrth egluro effaith y Gorchymyn.