Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 17 Ionawr 2018.
Weinidog, fis Medi diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu ymchwil i'r ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru gyflwyno cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr. Nawr, wrth gwrs, gallai hyn annog cynhyrchwyr i lunio eu cynnyrch mewn ffordd wahanol. A gaf fi ofyn pryd rydych yn disgwyl y byddwch yn adrodd ar ganlyniadau'r gwaith ymchwil hwn?