Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 17 Ionawr 2018.
Credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn—gwnaed pwyntiau pwysig iawn—ac rydych yn gywir fod malltod plastig yn uchel iawn yn ymwybyddiaeth y cyhoedd ar hyn o bryd. Mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar hynny ac yn gweithredu ochr yn ochr â hynny.
Yn Llywodraeth Cymru, rydym yn awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ar flaen y gad mewn perthynas â hyn, ein bod wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r defnydd o blastig, ac ar hyn o bryd mae gennym ymgynghoriad Eunomia, sy'n edrych ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, ond mae'n edrych ar amrywiaeth o bethau, nid yn unig y pethau a welsom yn cael eu pwysleisio megis cwpanau diod, ond yr holl gynwysyddion gwahanol. Hefyd, ceir gwaith sy'n edrych ar gynllun peilot y cynllun dychwelyd blaendal, ac mewn gwirionedd, mae gennym ddeddfwriaeth yn ei lle drwy Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016—Rhan 4 o Ddeddf yr amgylchedd—sy'n ein galluogi i fynd â hynny ymhellach mewn perthynas â chyfrifoldeb ar fusnesau. Mae gennym y ddeddfwriaeth, a chredaf ei bod yn bwysig, yn awr, ein bod yn gwneud yn siŵr fod hynny'n dod yn weithredol, ond rydym wedi ymrwymo i wneud hynny mewn amrywiaeth o feysydd, ac rwy'n siŵr y byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r lle hwn maes o law.