Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydych yn hollol iawn yn dweud ei fod yn gam beiddgar i fanwerthwr mawr fel Iceland, a gobeithio y bydd hynny'n ysgogi eraill o fewn y sector i ddilyn eu hesiampl hefyd. Credaf mai dyna pryd y mae gennym gystadleuaeth iach o ran ticio'r blychau, ac mewn gwirionedd, gallwch weld pobl yn newid i fod yn fwy ymwybodol o'r deunydd pacio a beth y maent yn ei brynu.
O ran ein strategaeth Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ceir cynllun i adnewyddu hwnnw'n ddiweddarach eleni wrth i ni godi ein targedau a'n huchelgeisiau o ran sut yr edrychwn ar weithredu. Gobeithio y bydd yr astudiaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr a'r gwaith rydym yn ei wneud â Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau i gyd yn bwydo i mewn i ran o hynny.