Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 1:39, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi fynd ar drywydd y pwynt hwn ynglŷn â'r rôl y mae plastigion yn ei chwarae yn cynhyrchu cymaint o wastraff a dinistr yn ein hamgylchedd? Cyfeiriwyd at weithred ragorol Iceland, ac fe gynhaliodd yr archfarchnad honno arolwg helaeth iawn cyn cymryd y cam hwnnw mewn gwirionedd, a dywedodd 80 y cant o'r rhai a holwyd y byddent yn cefnogi penderfyniad i beidio â defnyddio deunydd pacio plastig. Rwy'n credu, mewn ymateb i deimladau cyhoeddus o'r fath, fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i weithio gyda Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno, er enghraifft, eiliau archfarchnadoedd heb blastigion lle mae'r bwyd i gyd yn rhydd. Credaf ein bod angen y math hwn o feddwl. Rwy'n meddwl tybed pa gynlluniau sydd gennych i adolygu'r rhaglen Tuag at Ddyfodol Diwastraff i'w gwneud yn fwy uchelgeisiol ac i adlewyrchu'r galw cyhoeddus cynyddol hwn am weithredu.