Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn Llywodraeth Cymru, ac yma yng Nghymru, rydym yn falch ein bod wedi arwain y ffordd yn y gorffennol o ran codi tâl am fagiau plastig a deunydd pacio plastig yn hynny o beth. Rydym yn parhau i weithio gyda diwydiannau ac awdurdodau lleol i ddod o hyd i farchnadoedd gwell yng Nghymru yn enwedig ar gyfer plastigion. Mae yna gyfleoedd gwych yng Nghymru i fusnesau edrych ar sut y gallant gymryd rhan yn y diwydiant ailgylchu plastigion. Wrth gwrs, pan fyddwn yn adnewyddu'r strategaeth, byddwn yn edrych ar sut y gallwn greu targedau mwy uchelgeisiol, ond nid yn unig y dyheadau yn y targedau hynny, ond y camau sydd angen i ni eu cymryd yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir mewn gwirionedd i wneud yn siŵr ein bod yn arwain unwaith eto yng Nghymru.