Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 17 Ionawr 2018.
Tybed a oes angen i ni edrych ar raddfa hollol wahanol o ran beth sy'n digwydd. Rydych yn gweld y symud cymdeithasol a masnachol anhygoel hwn tuag at fynd i'r afael â'r broblem, a'r gwleidyddion sydd fymryn ar ei hôl hi, o bosibl, ac yn enwedig Llywodraeth Cymru—yn y maes hwn beth bynnag. Rydym wedi clywed gan Wetherspoon eu bod yn bwriadu gwahardd gwellt plastig a chyflwyno rhai bioddiraddiadwy yn eu lle. Mae hyn yn amlwg yn codi'r cwestiwn ynghylch plastig untro. Rydych wedi dweud wrthym beth sy'n digwydd gyda'r adolygiad o fentrau a arweinir gan gynhyrchwyr, ond onid yw'n bryd i ni fentro mwy a mynd ati i gynnal ymgynghoriad beiddgar iawn ar wahardd plastig untro o'n heconomi o fewn amser penodol?