Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch. Mae lleihau allyriadau o'n stoc tai yn allweddol i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd a'n targedau ynni ehangach. O gofio y bydd 90 y cant o gartrefi heddiw yn parhau i gael eu defnyddio yn 2050, a wnewch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, ymrwymo i weithio gyda'r grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd ac effeithlonrwydd ynni i ystyried cyflwyno cynllun gweithredu a strategaeth ddiwygiedig ar gyfer tlodi tanwydd i amlinellu targedau newydd er mwyn sicrhau bod cartrefi'n cyrraedd safon effeithlonrwydd ynni gofynnol peirianneg, caffael, adeiladu a chomisiynu, gan gydnabod y manteision y mae rhai cynlluniau, fel Arbed, wedi'u cyflwyno, a chydnabod bod llawer o waith i'w wneud, o ystyried na fydd y targedau gwreiddiol a osodwyd ar gyfer 2018 yn mynd i gael eu bodloni bellach?