Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 17 Ionawr 2018.
Credaf eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, a dydd Llun fe gawsom gyfarfod o grŵp gorchwyl a gorffen y Gweinidog ar ddatgarboneiddio, a buom yn siarad am hyn, oherwydd, yn amlwg, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar effeithlonrwydd ynni fel ein ffordd o fynd i'r afael â thlodi tanwydd, ond mae angen i ni hefyd edrych ar ôl-osod mewn perthynas â datgarboneiddio a sut y byddwn, yn amlwg, yn cyrraedd y targedau hynny yn ogystal.
Byddwn yn cael data tlodi tanwydd newydd ar ddiwedd 2018 a bydd hwnnw'n sicr o lywio'r trafodaethau rydym yn eu cael, gyda'n rhanddeiliaid yn enwedig. Buaswn yn hapus iawn i fynychu grŵp trawsbleidiol, os ydych yn dymuno i mi wneud hynny.