Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw. Ymddengys bod consensws clir ar y mater hwn o ran yr angen i fynd i'r afael ag ef. Fel y dywedais o'r blaen, rwyf wedi cyfarfod â nifer o archfarchnadoedd mawr a chynrychiolwyr manwerthu i drafod y mater hwn fel rhan o'n hastudiaeth ar gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr. Fe arhoswn am ganfyddiadau'r astudiaeth honno cyn bwrw ymlaen.