Deunydd Pacio Plastig

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 1:38, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Weinidog, bob blwyddyn, mae mwy nag 8 miliwn tunnell o blastig yn cyrraedd ein cefnforoedd, gan gostio o leiaf £6.2 biliwn o ddifrod i ecosystemau morol a lladd oddeutu 1 filiwn o adar môr, 100,000 o famaliaid môr a nifer ddifesur o bysgod. Mae archfarchnadoedd yn defnyddio lefelau gwarthus o ddeunydd pacio plastig diangen ac yn ychwanegu at y broblem. Mae Cymru wedi arwain y ffordd ar fagiau siopa untro. Gadewch i ni arwain y ffordd wrth fynd i'r afael â deunydd pacio plastig diangen. Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gydag archfarchnadoedd mawr ynglŷn â'r defnydd o ddeunydd pacio plastig, ac a wnewch chi ystyried deddfwriaeth os yw prif fanwerthwyr yn methu gostwng lefelau'r deunydd pacio plastig y maent yn ei ddefnyddio yn wirfoddol?