Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:43, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, mae'r Aelod yn nodi pwyntiau pwysig iawn ar hynny a phwyntiau rhagwybodus ar hynny. Rwy'n gyndyn o gynnwys enwau'r nifer o gwmnïau corfforaethol mawr, ond mae brand bwyd cyflym adnabyddus arall, rwy'n credu, hefyd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cael gwared ar wellt a mathau eraill o blastig yn y degawd neu ddau nesaf.

Rwy'n credu bod angen i ni fod yn feiddgar yn ein huchelgais, a phan fyddwn yn edrych ar adnewyddu'r strategaeth dylem edrych ar sut y gallwn gyflawni hynny, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda'r diwydiant ar hyn, fod y diwydiant yn cymryd rhan ynddo. Mae hefyd yn creu cyfleoedd o ran ailgylchu ac o ran y sgiliau a'r swyddi sydd gennym yma yng Nghymru yn ogystal.