Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn ddiweddar cyfarfûm â Chyngor ar Bopeth yn fy ardal leol i drafod eu gwaith yn ymgyrchu ynglŷn â mesuryddion talu ymlaen llaw. Rwy'n siŵr y byddwch yn gwbl ymwybodol mai pobl sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yw rhai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed, ac maent yn aml gannoedd o bunnoedd y flwyddyn ar eu colled. Mewn gwirionedd, Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer uchaf o aelwydydd sydd â mesuryddion talu ymlaen llaw yng Nghymru. Rwy'n deall nad yw hwn yn faes sydd wedi'i ddatganoli, ond pa waith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, neu pa ymgynghoriad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater allweddol hwn?