Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 17 Ionawr 2018.
Nid wyf yn credu y byddaf yn llwyddo i gael ymrwymiad i dreth ar blastigion gennych heddiw, felly rwyf am newid cyfeiriad, os caf, a sôn am fater arall rydych chi fel Gweinidog hefyd yn gyfrifol amdano, sef llygredd aer. Mae ClientEarth yn mynd â Llywodraeth Cymru i'r llys erbyn 23 Chwefror, oherwydd pryderon fod lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid mewn trefi a dinasoedd, llygredd sy'n aml yn deillio, wrth gwrs, o gerbydau diesel. A ydych yn cydnabod bod llygredd aer yn broblem yng Nghymru? Tybiaf eich bod, ond a ydych yn cydnabod eich cyfrifoldeb chi yn eich Llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, a sut, yn benodol, y byddwch yn ymateb i'r achos llys hwn ac yn ymateb i honiadau ClientEarth?