Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:46, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn iawn. Mae ansawdd aer yn rhywbeth—. Mewn gwirionedd, roedd y ddadl gyntaf a arweiniais yn y portffolio hwn yn ymwneud ag ansawdd aer. Mae'n ymrwymiad ac mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth. Rydych yn cyfeirio at achos ClientEarth. Ni allaf wneud sylwadau manwl ar hynny ar hyn o bryd, gan ei fod yn achos sy'n mynd rhagddo. Ond mewn gwirionedd, o ran ein dyheadau yn y cynllun aer glân rydym wedi'i amlinellu, nid yw'n ymwneud yn unig â bodloni'r rhwymedigaethau hynny. Mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn paratoi'r ffordd ar gyfer y dyfodol a sicrhau ein bod yn mynd gam ymhellach. Gwyddom pa mor bwysig yw ansawdd aer. Mae ansawdd aer gwael yn cael effaith, yn amlwg, ar y cymunedau mwyaf agored i niwed, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithredu ar hyn.

Yn y ddadl, rhoesom amlinelliad o'r cynllun aer glân ar gyfer Cymru, sy'n cynnwys fframweithiau parthau aer glân. Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol, ac fe glywsoch yn y gyllideb ddoe fod cyllid ychwanegol ar gyfer hynny yn ogystal. Mae hefyd, mewn gwirionedd, yn golygu defnyddio pob dull sydd ar gael i ni, yn ogystal ag annog Llywodraeth y DU i fwrw iddi mewn meysydd lle y gallant weithredu, megis cael gwared ar gerbydau diesel yn raddol.

Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig fod yna ymrwymiad i weithio ar draws y Llywodraeth ar hynny. Er bod ansawdd aer yn cael ei ystyried yn fater amgylcheddol, ni ellir mynd i'r afael ag ef yn y ffordd honno'n unig. Felly, mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn gweithio ar draws, gan edrych ar drafnidiaeth, ar gerbydau allyriadau isel, ac edrych ar ein seilwaith, a gwneud yn siŵr, pan fo datblygiadau'n digwydd, fod darpariaeth ansawdd aer yn cael ei hystyried pan fo hynny'n digwydd.