Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich sgwrs ag arweinydd UKIP yn gynharach am deledu cylch cyfyng mewn lladd-dai, ac mae'n wir fod gan bob lladd-dy mawr deledu cylch cyfyng. Mae yna gwestiwn yn codi ynglŷn ag a ddylid ei gyflwyno yng ngweddill y sector lladd-dai, ac rydym ni ar y meinciau hyn yn cefnogi hynny. O'ch canfyddiadau a'ch trafodaethau ar hyn, a fyddai'n gywir dweud y gellid rhyddhau arian o'r rhaglen datblygu gwledig i gefnogi menter o'r fath fel na fyddai baich gormodol ar ladd-dai bach, ar sail cost, a allai beryglu eu dyfodol, sy'n hollbwysig o ran hybu cig coch yn y rhan hon o'r Deyrnas Unedig?