Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn sicr, ydy, mae'n rhywbeth rydym yn edrych arno mewn perthynas â'r rhaglen datblygu gwledig. Soniais yn fy ateb i Neil Hamilton fy mod wedi cael cyfarfod ynglŷn â hyn y bore yma gyda'r Athro Christianne Glossop. Nid wyf eisiau i hynny fod yn faich. Nid wyf eisiau i ladd-dai llai o faint ddod ataf a dweud bod arian yn rhwystr i wneud hyn, felly buaswn eisiau cael gwared ar y rhwystr hwnnw. Fe ofynnoch yn benodol am y rhaglen datblygu gwledig—yn amlwg, gallai fod materion cyfreithiol y byddai'n rhaid i mi edrych arnynt—a dyna'r gwaith sydd ar y gweill ar hyn o bryd.