Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:51, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw. Maes arall a allai hefyd arwain at wella lles anifeiliaid yw pe baem yn gwahardd allforio anifeiliaid byw. Ar hyn o bryd, mae'r UE yn amcangyfrif bod oddeutu 4 miliwn o wartheg, 28 miliwn o foch, 4 miliwn o ddefaid, 243 miliwn o ddofednod, a 150,000 o geffylau yn cael eu cludo am fwy nag wyth awr o fewn yr UE. Pan fyddwn wedi gadael yr UE, byddwn yn gallu atal yr elfen Brydeinig o hynny. Gwn nad oes llawer o hynny'n dod o Gymru, ond serch hynny, mae pob tamaid bach yn helpu, fel y dywed un archfarchnad enwog, a byddwn yn gallu gwneud ein cyfraniad tuag at wella un elfen bwysig o les anifeiliaid.