Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn hollol, ac yn sicr, byddai'n well gennyf pe bai anifeiliaid yn cael eu lladd mor agos ag sy'n ymarferol bosibl i'r fan lle y cawsant eu cynhyrchu, a chredaf, unwaith eto, fod hynny'n rhywbeth, fel y dywedwch, nad yw'n cael effaith enfawr ar allforion Cymru. Fodd bynnag, nid oes ots pa mor fach ydyw; buaswn yn sicr eisiau canolbwyntio ar hynny.