Coedwigaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:00, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n croesawu diddordeb gwleidyddol a phersonol pellach Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn y maes allweddol hwn, yn dilyn y ddadl a gawsom fis diwethaf. Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol fod yr ystâd goetiroedd yn ased cymdeithasol pwysig. Gwyddom fod manteision iechyd a lles yn deillio o allu cael mynediad ato, ac ymdeimlad o hunaniaeth a lle ar y lefel leol yn ogystal. Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi'r ymatebion i'n hymgynghoriad, 'Bwrw ymlaen â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy', sy'n cynnwys cynigion i ddiweddaru'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer mynediad y cyhoedd at yr awyr agored, a byddwn yn cyhoeddi crynodeb ohono ac ymateb y Llywodraeth maes o law.

Hefyd, nodaf fod cyd-Aelodau wedi nodi enghreifftiau da iawn o goetiroedd cymunedol yn ystod y ddadl. Hoffwn ailadrodd fy ymrwymiad ar y pryd a dweud pe bai Aelodau'n dymuno ein gwahodd i weld hynny, fel y gallwn weld arfer gorau drosom ein hunain, gallai hynny ddylanwadu arnom yn y dyfodol gobeithio.