Coedwigaeth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:01, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fe fyddwch yn gwybod pa mor bwysig yw'r diwydiant coed yn fy etholaeth, yn arbennig i fusnesau fel Clifford Jones Timber yn Rhuthun, sydd, wrth gwrs, yn gyflogwr pwysig ac yn un o'r prif gwmnïau sy'n ymwneud â choedwigaeth, os hoffech—cwmnïau sy'n ymwneud â choed—yng Nghymru. Un o'r pryderon y maent wedi'u dwyn i fy sylw, ac a gafodd sylw yng ngwaith y pwyllgor, oedd prinder y cyflenwad o bren, a'r angen i blannu mwy o goed er mwyn gwneud iawn am hynny. Pe bai ganddynt fynediad at ffynonellau mwy dibynadwy o bren, maent yn dweud wrthyf y byddent yn gallu ehangu eu busnes a chreu mwy o waith a chyfoeth yng ngogledd Cymru. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod mwy o bren ar gael i'w ddefnyddio yn y diwydiant coed?