Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn gynharach yr wythnos hon, addawodd yr Undeb Ewropeaidd y byddent yn sicrhau bod holl ddeunydd pacio plastig yn ailgylchadwy erbyn 2030. Mae hwnnw'n rhywbeth rwy'n ei gefnogi'n llwyr, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yma yn ei gefnogi hefyd, oherwydd rydym yn deall yr effaith enfawr y mae plastig yn ei chael ar ein hamgylchedd, ein bywyd gwyllt ac, yn y pen draw, ar ein hiechyd. Fel y mae pethau, byddwn wedi gadael yr UE erbyn 2030. Pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r Llywodraeth i sicrhau na fydd Cymru yn wlad lai amgylcheddol yn y dyfodol ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd?