Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn hollol. Cefais gyfarfod y bore yma gyda'r prif swyddog milfeddygol ar y mater hwn oherwydd fe wyddoch ein bod wedi cael yr ymgynghoriad o'r blaen. Mae Lloegr yn ystyried gwneud hyn; mae'r Alban yn ystyried gwneud hyn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod gan y mwyafrif helaeth o'r lladd-dai mawr, yn sicr, gamerâu teledu cylch cyfyng, ond rwy'n awyddus iawn i'w gwneud yn orfodol, er mwyn gweld pa becyn cymorth y byddai'n rhaid sicrhau ei fod ar gael, oherwydd rwy'n credu mai dyna'r ffordd o wella safonau ac arferion a chadw hyder y cyhoedd. Felly, mae gennyf swyddogion yn gweithio'n fanwl iawn ar y mater hwn, a byddaf yn cyflwyno datganiad i'r lle hwn yn y dyfodol agos.