Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:52, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r nodyn hwn o gyfeillgarwch i'w groesawu'n fawr yn y Cynulliad, rwy'n siŵr y bydd pawb yn cytuno.

Y trydydd maes lle y credaf y dylem allu gwella lles anifeiliaid yw drwy osod camerâu teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai yng Nghymru. Mae'r rhai mwyaf yn gwneud hyn eisoes, ond nid yw'r rhai llai yn gwneud ar y cyfan. O'r 29 lladd-dy yng Nghymru, credaf fod 18 nad ydynt yn cael eu monitro gan deledu cylch cyfyng, a'r rhai llai yw'r rheini yn gyffredinol. Ond mae'n ymddangos yn bwysig iawn i mi, ac yn bwysig i ffermwyr yn gyffredinol, rwy'n credu, a'r diwydiant amaethyddiaeth yn gyffredinol, fod gan y cyhoedd hyder yn y bwyd sy'n cael ei roi ar y bwrdd a'r ffordd y caiff ei gynhyrchu a'i brosesu, ac er mwyn cynnal cefnogaeth y cyhoedd i ffermwyr ac amaethyddiaeth yn gyffredinol, mae angen i ni fod yn rhagweithiol wrth ddangos bod anifeiliaid yn cael eu cadw, a phan gânt eu lladd, eu bod hefyd yn cael eu lladd mewn ffordd drugarog sy'n cydymffurfio â'r safonau uchaf posibl o ran lles anifeiliaid. Felly, mae hwn yn faes y gallai Llywodraeth Cymru ddangos mentergarwch ynddo, hyd yn oed yn awr, cyn i ni adael yr UE. Tybed a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn rhoi ystyriaeth bellach i ymestyn y mesurau rheoli sy'n bodoli'n barod.