Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 17 Ionawr 2018.
Wel, yn wir, efallai ei fod yn cael ei ystyried yn fater amgylcheddol, ond mae'n fater iechyd y cyhoedd yn gymaint ag unrhyw beth arall. Yn wir, yn y ddadl honno rydych newydd gyfeirio ati, pleidleisiodd y Cynulliad unwaith eto o blaid gwelliant gan Blaid Cymru a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater iechyd y cyhoedd yn ogystal â mater amgylcheddol. Nid chi sy'n gyfrifol am iechyd y cyhoedd, rwy'n gwybod, ond mae'n amlwg fod angen cydgysylltu hyn ar draws y Llywodraeth.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi dweud ei bod eisiau achub y blaen ar Lywodraeth San Steffan o ran cael gwared ar betrol a diesel newydd yn raddol erbyn 2032. Mae gennym enghreifftiau ar hyd a lled Ewrop o ddinasoedd sy'n cael gwared yn raddol ar gerbydau diesel a phetrol mewn llawer llai o amser nag y mae Llywodraeth San Steffan wedi sôn amdano. Onid yw'n bryd i ni o leiaf ystyried ardaloedd peilot yng Nghymru lle y gellir gwahardd diesel a phetrol, naill ai ar ddiwrnodau penodol neu ar adegau penodol, er mwyn sicrhau rhywfaint o welliant yn ansawdd aer yr ardaloedd hynny, problem nad yw'r system gyfredol, i fod yn onest, yn llwyddo i fynd i'r afael â hi, ac o ran iechyd y cyhoedd, mae yna farwolaethau'n deillio'n uniongyrchol o hynny?