Lles Anifeiliaid

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:59, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, fel y dywedwch, mae'r gweithgor wedi cyfarfod bellach. Rwy'n credu y byddant yn adrodd yn ôl yn yr haf. Felly, buaswn yn dychmygu mai'r llinell amser ar gyfer cyflwyno datganiad fyddai yn ystod yr haf yn ôl bob tebyg neu gyn gynted ag y byddwn yn dychwelyd ar ôl yr haf. Yn amlwg, mae'n waith rydych wedi dangos diddordeb arbennig ynddo a chredaf y byddai'n wych pe gallem fod yn gyntaf. Yn sicr, ar hyn o bryd, rydym ar y blaen, ond mae'r cysylltiad rhwng—. Roedd yr hyn a drafodwyd gennym, Bethan, yn ymwneud â chofrestr cam-drin anifeiliaid a'r cysylltiad â cham-drin domestig. Mynychais seminar ar hynny ac roedd hi'n glir iawn fod Cymru ar y blaen yn llunio'r cymariaethau hynny.