Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 17 Ionawr 2018.
Roeddwn eisiau parhau â'r cwestiwn mewn perthynas â'r gofrestr cam-drin anifeiliaid. Yn amlwg, rydym wedi mynd yn bell yn y maes penodol hwn gyda'r gweithgor a arweinir gan RSPCA, ond tybed a oeddech wedi ystyried fy mhryderon y tro diwethaf ynglŷn ag a fyddai'r rhai a ddechreuodd yr ymgyrch, megis lloches anifeiliaid Tŷ Nant a Maxine Berry o Justice for Chunky, yn rhan o'r gweithgor penodol hwnnw. A allech roi amlinelliad i ni pa bryd y byddwch yn cyflwyno eich datganiadau neu eich syniadau cychwynnol ynglŷn ag a fyddai hyn yn rhywbeth y gallai Cymru arwain arno—enghraifft arall o Gymru'n gyntaf—i gael y gofrestr hon? Credaf y byddai ymgyrchwyr yn y maes yn croesawu cynnydd yn hyn o beth.