Risg Llifogydd yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:05, 17 Ionawr 2018

Rydw i'n barod iawn i helpu'r Gweinidog i lenwi diwrnod o ymweliadau yn y gogledd drwy ofyn iddi hi ddod draw i Ynys Môn hefyd. Mi gawsom ni lifogydd mewn sawl rhan o Ynys Môn cyn y Nadolig, ac rydw i, wrth gwrs, wedi ymweld â'r cymunedau hynny o Ddwyran i Lanfairpwll i Borthaethwy a Llangefni, ac yn y blaen.

Mi hoffwn i grybwyll y sefyllfa yn Llangefni yn benodol. Rydw i wedi bod yn trafod y sefyllfa yna efo Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae wedi dod i'r amlwg bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi gofyn ers rhai blynyddoedd bellach i Gyfoeth Naturiol Cymru wneud gwaith atal llifogydd ar yr afon Cefni yn dilyn llifogydd hanesyddol yno yn y blynyddoedd diwethaf. Ac mae hi'n amlwg bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â blaenoriaethu'r gwaith hwnnw, sydd ddim yn waith rhyfeddol o gymhleth, ond mae o'n waith sydd angen ei wneud.  A gaf i ymrwymiad gennych chi fel Gweinidog y byddwch chi'n sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru rŵan yn blaenoriaethu'r gwaith yma, gan nad risg ar bapur, fel rydym ni wedi'i weld mewn rhannau eraill o Gymru, gan gynnwys y Rhath yng Nghaerdydd, sydd gennym ni yn y fan hyn, ond risg gwirioneddol wedi'i brofi gan dystiolaeth?