Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch i chi am eich cwestiwn. Rydych yn iawn yn dweud mai'r risg yn Hen Golwyn yw'r bygythiad i'r seilwaith—y rheilffordd a'r ffordd—yn hytrach nag i gartrefi, ac fe fyddwch yn gwybod bod swyddogion wedi annog Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ofyn am gyfraniadau partneriaeth priodol gan y rhanddeiliaid hynny cyn gofyn am ragor o gyllid grant, ond mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd, rwy'n deall, yn cynllunio i gynnal trafodaethau gyda Dŵr Cymru mewn perthynas â Hen Golwyn. Ac ym mis Tachwedd, cyfarfu swyddogion y cyngor â Network Rail i ddatblygu ateb posibl ar y cyd i risg arfordirol yn Hen Golwyn. Deallaf fod y trafodaethau hynny wedi bod yn gadarnhaol, ond os hoffai'r Aelod ysgrifennu ataf yn fy ngwahodd i ymweld â'r lle, buaswn yn hapus i ystyried hynny.