Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 17 Ionawr 2018.
Un o'r meysydd sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, wrth gwrs, yw bae Colwyn, ond mae un rhan o fae Colwyn sy'n arbennig o agored i lifogydd, ac sydd wedi dioddef llifogydd yn ddiweddar iawn yn sgil Storm Eleanor, a darodd ogledd Cymru ychydig wythnosau yn ôl pan gafwyd llifogydd ar bromenâd Hen Golwyn. Mae hwn yn ddigwyddiad rheolaidd bellach, ac rwy'n bryderus iawn am y bygythiad i'r amddiffynfeydd yn yr ardal honno, sydd, wrth gwrs, fel rydych yn ei wybod, Weinidog, yn diogelu'r A55 a rheilffordd y gogledd. Rydym angen arweiniad ar hyn, ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu'r arweiniad hwnnw. Buaswn yn ddiolchgar iawn pe baech yn ymuno â mi ar ymweliad â Hen Golwyn i arolygu'r amddiffynfeydd hynny, a dwyn ynghyd yr asiantaethau a'r partneriaid y bydd eu hangen er mwyn uwchraddio'r cyfleusterau a'r amddiffynfeydd yno.